Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Priorities for the Economy, Infrastructure and Skills Committee

EIS 47 Mentrau Iaith Cymru

EIS 47 Mentrau Iaith Cymru

 

Mentrau Iaith Cymru yw’r mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 23 Menter Iaith leol ar draws Cymru sy’n hyrwyddo, hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.  Diolch am y cyfle i rannu gwybodaeth gyda chi ynglŷn â’n blaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith y pwyllgor.  Rydym yn amlinellu nifer o feysydd isod rydym ni’n teimlo sy’n briodol i’r pwyllgor eu hystyried eleni.

Adroddiadau perthnasol:

Wrth gynllunio rhaglen waith y pwyllgor dylech ystyried nifer o adroddiadau perthnasol i’r maes iaith ac economi sydd wedi eu cyhoeddi yn y ddwy flynedd diwethaf, sef:

Ceir yn y tri adroddiad hwn argymhellion clir mewn perthynas iaith ac economi, a chasgliadau a wnaed yn sgil gwaith ymchwil ac ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid.  Credwn y byddai’n addas i’r pwyllgor ystyried ymateb y Llywodraeth i’r adroddiadau hyn, a hefyd unrhyw weithgareddau sydd ar y gweill, gan ystyried a oes mwy gall y Llywodraeth ei wneud er mwyn ymateb i’r argymhellion.

Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Mentrau Iaith Cymru wedi datblygu’r achos i greu cynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg.  Mae gan siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg anghenion unigryw o ran hyfforddiant a’r gweithle ac mae angen cynllunio’n ofalus ar eu cyfer er mwyn diwallu’r anghenion hyn.  Atodir papur sy’n amlinellu gweledigaeth y cynllun.

Yn gysylltiedig i’r maes hwn, fe fyddwn ni yn croesawu:

Y cyfle i drafod egwyddorion y cynllun ac elfennau ohono all cynnig atebion i gryfhau’r iaith Gymraeg a’r economi gyda’i gilydd

 

Ymchwil ac asesiad o werth economaidd yr iaith Gymraeg:

Wrth ystyried gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng Ngwlad y Basg sydd yn dangos bod yr iaith Fasgeg gwerth 4.2% o GDP economi y gymuned ymreolaethol teimlwn y byddai’n briodol ac amserol i gynnal gwaith ymchwil tebyg i’n sefyllfa unigryw ni yma yng Nghymru.  Rydym yn bwriadu awgrymu wrth y Llywodraeth bod hyn yn faes dylai cael ei flaenoriaethu ac mae’n faes gall y Pwyllgor hefyd ystyried fel rhan o’i waith, er mwyn cyfrannu at gasglu tystiolaeth gadarn ynglŷn â chyfraniad y Gymraeg i’n heconomi.

Mawr obeithiwn y gallwch ystyried ein hymateb, ac mae pob croeso ichi gysylltu â ni am wybodaeth bellach.

Emily Cole

Cydlynydd Cenedlaethol

Mentrau Iaith Cymru

www.mentrauiaith.cymru

01443 493715

07977892023